

Iogis Bach
Dechrau'r daith
Haia, Leri ydw i.
Dwi'n athrawes, gwraig, ac yn fam i blentyn bach bywiog iawn.
​
Ar ôl i mi eni fy mhlentyn, mi ges i iselder ar ôl y geni. Roedd yn anodd. Ond mi wnaeth i mi fod eisiau creu cymuned gynhwysol lle mae help ar gael i bawb.
Mae gen i flynyddoedd o brofiad o weithio gyda phlant fel cynorthwyydd addysgu ac yna fel athrawes gymwysedig.
Wrth addysgu yn yr ystafell ddosbarth, sylweddolais fod angen dull holistaidd at addysg. Mi wnes i hyfforddi i ddod ag ioga a meddwlgarwch i'r plant. Roedd effaith yr arferion hyn ar eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol yn rhyfeddol.


Darganfod yr hud
Roedd cyfnod mamolaeth yn ystod y cyfnod clo yn sicr yn wahanol. Yn hytrach na mynychu grwpiau babanod lleol a gwneud ffrindiau gydol oes gyda mamau tro cyntaf eraill - roedd yr holl grwpiau babanod a digwyddiadau ar-lein, yn cynnwys ioga a thylino babi.
Mi wnes i ddarganfod rhywbeth arbennig - drwy wneud ioga efo fy mabi, roedd popeth yn arafu. Roeddwn i'n gallu anadlu, meddwl yn glir, a chysylltu go iawn efo fy mhlentyn. Mae’n swnio mor syml, ond mi oedd yn fyd newydd i mi. Roedd y profiad hwn wedi fy ysbrydoli gymaint nes i mi benderfynu hyfforddi i ddysgu ioga a thylino babi.
Gyda'n gilydd
Yn Iogis Bach, dwi eisiau i bob un ohonom, fel rhieni, gael gofod lle gallwn ni:
​
-
arafu a mwynhau ein plant
-
cymryd gofal ohonon ni ein hunain
-
teimlo'n gysylltedig gyda rhieni eraill
-
sylwi ar yr eiliadau bach hynny sy'n gwneud i ni deimlo'n dda
Yn fy nosbarthiadau, mae pawb yn bwysig. Dwi yma i dy helpu di i arafu, ymlacio, a gweld y pethau bach arbennig sy'n digwydd bob dydd. Gyda'i gilydd.

.png)