top of page
DSC00479.jpg

Croeso

Croeso i Iogis Bach.

​

Beth am ymuno â rhieni eraill sydd yn deall.
Gad i ni dy helpu i arafu, anadlu'n ddwfn, a gofalu amdanat ti - dy gorff a dy feddwl.

 

Mae'r daith trwy feichiogrwydd, mamolaeth a phopeth sy'n dod ar ôl hynny yn gallu bod yn gyfnod heriol. Ond ti ddim ar dy ben dy hun.
‘Da ni yma, pob cam o'r ffordd.

 

Leri x

Sesiynau

Yn Iogis Bach rydym yn helpu rhieni a’u rhai bach trwy ddysgu sgiliau iddyn nhw arafu, ymlacio a sylwi ar yr eiliadau bach hynny sy’n gwneud i ni deimlo’n dda. Mae pob un o’n dosbarthiadau a’n cyrsiau yn rhoi’r un pwyslais arnoch chi fel rhiant yn ogystal â’ch babi. Rydym yn ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar ac ymlacio i'ch helpu i ailosod a dadflino yn feddyliol, yn gorfforol ac yn ysbrydol.

​

Mae'r cyrsiau, dosbarthiadau a gweithdai yn cael eu cynnal ar draws Gwynedd a Môn. 

Baby massage
Pregnancy
Mother and Newborn
baby in a Iogis Bach session

Gweithdai Iechyd a Lles ar gyfer Ysgolion

Cysylltwch am fwy o wybodaeth am weithdai lles yn cynnwys ioga a meddwlgarwch ar gyfer eich ysgol.

​

Conwy, Gwynedd a Môn 

babis_edited.jpg

Nosweithiau Lles

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau lles yn y gymuned. Archebwch eich lle.

Tylino Babi

"Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn ffordd wych o ymlacio a chwrdd â Mamau eraill o'r un anian ac i rannu profiadau a dysgu technegau gwerthfawr i helpu i gefnogi eich babi.

Fel rhywun sydd wedi cael trafferth gyda phryder i adael y tÅ· gyda fy un bach, mae'r sesiynau hyn wedi fy ngwthio i fynd allan a mwynhau'r math gwahanol o ryngweithio gyda fy mabi.

Mae Leri mor groesawgar ac mae hi wir yn gofalu am y fam a'r babi. Rydych chi'n teimlo'n gartrefol ac yn gyfforddus bob amser. Rwyf wedi mynychu tylino babanod ac ar hyn o bryd rwy'n mynychu'r cwrs ioga babanod. Rwyf wedi caru'r holl sesiynau yr wyf wedi mynychu ac nid ydwyf am i'r sesiynau ddod i ben. Diolch Leri xx"

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu efo ni.

​

iogisbach@gmail.com

​

​

Diolch am eich neges!

bottom of page