top of page
Writer's pictureLeri - iogis bach

Fy Mhrofiad Personol o Salwch Meddwl Perinatal

Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamol - 2024





*Rhybudd cynnwys - preeclampsia, ptsd, trawma genedigaeth a salwch iechyd meddwl

Nôl yn Ionawr 2020, roedd y gŵr a minnau wedi gwirioni ar ôl dod i wybod ein bod ni’n disgwl ein babi bach cyntaf. A wedyn daeth y cyfnod clo ym mis Mawrth…

Ers fy arddegau dwi wedi cael cyfnodau fyny a lawr gydag iselder a gorbryder. A gyda chymaint o ansicrwydd o gwmpas bod yn feichiog ac yn cysgodi oherwydd cyflwr meddygol yn y cyfnod clo mi ddaeth y gorbryder yn fwy a fwy amlwg.

Roedd y beichiogrwydd yn mynd yn grêt hyd at tua 30 wythnos pan nes i gychwyn dangos symptomau o preeclampsia. O ganlyniad, roedd rhaid i mi fynd ar frys i gael i’r ysbyty i gael induction.

Doedd y gŵr ddim yn cael bod gyda mi oherwydd y cyfyngiadau, a dwi’n cofio teimlo mor unig ac yn ofn ei bod hi’n rhy fuan i eni’r bychan. Roeddwn i’n poeni os byddai’n ymdopi yn cael ei eni mor fuan. Doeddwn i heb bacio bag sbyty, doedd gen i ddim ‘birth plan’, roedd popeth yn digwydd mor gyflym.

Dwi’n cofio bod yn theatr gyda llwyth o bobol o’n nghwmpas i, dim syniad beth oedd mynd ymlaen. Y gŵr yn cael ei hel o na, y botwm argyfwng yn cael ei ganu, a teimlo fel mod i’n mynd i drwm gwsg. Yr unig peth oeddwn i’n gallu meddwl am oedd os oedd fy mabi i’n iawn ac os oeddwn i’n mynd i fyw.

Pan nes i gychwyn dod rownd, doedd gen i ddim syniad beth oedd wedi digwydd, fel bod mewn breuddwyd, oeddwn i di rhoi genedigaeth a doedd fy mabi ddim hefo i. Oeddwn i mor sâl ar ôl cael postpartum hemorrhage, roedd o fel oeddwn i ddim yn gallu cyfathrebu’n iawn.

Roeddem yn hynod o lwcus o’r gofal arbennig cafodd y mab yn SCBU ac y diwrnod wedyn mi ges i gyfarfod ein mab bach am y tro cyntaf.

Ar ôl dod adref o’r ysbyty roedd y gorbryder yn llethol - poeni am pob un dim, poeni bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i’r bychan. Roeddwn i’n cael hunllefau, flashbacks o’r geni. Roedd y peth lleiaf yn gallu bod yn trigger. Daeth yn amlwg i pawb o fy nghwmpas doeddwn i ddim yn iawn. Ar y pryd roedd ‘na sôn am postnatal depression, ond doedd pethau ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Doeddwn i ddim wedi gallu prosesu unrhyw beth ddigwyddodd i ni.

Doeddwn i methu deall pam oeddwn i ddim yn teimlo fel fy hun? Pam doeddwn i ddim yn teimlo ar ben y byd? A teimlo mor euog fy mod i’n isel a babi bach mor berffaith ganddo ni. A dwi’n cofio rhywun yn dweud wrthai ‘dim ots beth sydd wedi digwydd, mae dy fabi di’n iach a ti’n iach!’


Ond doeddwn i ddim yn iach o bell ffordd, ac yn teimlo fel bod rhywbeth ddim yn iawn. Ar ôl misoedd o ddioddef, dim eisiau gweld neb, ofn mynd allan o’r tŷ mi ges i fy nghyfeiro at y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol (Perinatal Mental Health Team) ac mi ges i ddiagnosis o PTSD (post traumatic stress disorder) o ganlyniad i enedigaeth trawmatig.


Ar adeg mor fregus o fy mywyd a gyda babi bach newydd enedig, pan oeddwn i angen cefnogaeth, mi wnai byth anghofio’r teimlad o unigrwydd. Wrth gwrs oedd fy nheulu yn gefnogol, ond doedd gen i ddim ffordd o gysylltu gyda mamau eraill. Doedd gen i ddim syniad sut i gychwyn chwilio.


Nes i gychwyn therapi, ac roedd y seicolegydd yn wych, roedd y therapi yn anodd, ond roeddwn i’n benderfynol roeddwn i eisiau gwella er mwyn y bychan a fy nheulu bach. Dim ond drwy dderbyn therapi mi wnes i ddod i ddeall beth oedd wedi digwydd i ni a pam oeddwn i’n teimlo mor sâl yn feddyliol.


Tra roeddwn i o dan y tîm Iechyd Meddwl Amenedigol mi oeddwn i’n ffodus o gael cefnogaeth gan bydwraig arbennig wnaeth awgrymu i mi ddilyn cwrs tylino babi (arlein) gan bod ymchwil yn dangos bod na effeithiau positif i’r fam a’r babi wrth dylino.

Yn wir i chi ar ôl ychydig o sesiynau mi wnaeth o helpu mi gymaint - sicr yn gam yn y ffordd cywir. Pob tro roeddwn yn tylino yr un bach roeddwn i’n ymgolli yn y foment ac yn cael boddhad o’i weld yn mwynhau.

Ar ôl tua chwe mis, roeddwn i’n cychwyn gweld y goleuni a’r gobaith y byswn i’n gallu gwella gyda mwy o therapi ac amser. Ond oherwydd canllawiau y bwrdd iechyd daeth yr holl waith gwerthfawr oeddwn i wedi wneud gyda’r seicolegydd i ben ar drothwy penblwydd y bychan yn 1 oed. Doedd na ddim mwy o gefnogaeth ar gael. Roedd rhaid i mi geisio barhau i wella, ond oeddwn i dal i deimlo ar goll.


Mae helpu yn fy natur (dwi’n meddwl dyna pan nes i cychwyn fy ngyrfa fel athrawes ysgol gynradd.) Es i ‘mlaen i astudio cyrsiau diploma mewn ioga babi a tylino babi.

Dyma un o’r rhesymau daeth iogis bach i fodoli, er mwyn i mi allu helpu eraill, fel wnaeth y tylino babi fy helpu i ar adeg mor dywyll o fy mywyd.

Tair mlynedd yn ddiweddarach dwi’n caru’r ‘gwaith’ dwi’n wneud a dwi mor ddiolchgar o’r holl famau, rhieni a rhai bach dwi wedi gyfarfod ar hyd y ffordd. Llawer dwi’n falch o alw yn ffrindiau erbyn hyn. Wrth edrych yn ôl, mae Iogis Bach wedi bod yn yn rhan fawr o fy siwrne i adfer a iachau.


Pam dwi’n rhannu fy mhrofidau?

Y tro cyntaf i mi rannu rhan o fy mhrofiad yn gyhoeddus oedd llynedd pan ges i wahoddiad i ddigwyddiad gan Menter Môn a Llwyddo'n Lleol i siarad ar banel ar gyfer llawryddion Gwynedd a Môn. Oeddwn i’n mor ansicr am siarad ac mi roedd yn brofiad hynod o emosiynol. Ond ges i gymaint o ryddhad o siarad yn onest ac yn agored. Ar ôl hyn mi wnes i sylweddoli ei fod hi’n bwysig i godi ymwybyddiaeth, drwy rhannu fy mhrofiad fel bod eraill yn teimlo’n gyffyrddus i siarad yn agored, i gael hyder i estyn allan am gefnogaeth a chwalu’r stigma.


Pwrpas arall i ‘sgwennu hyn i gyd lawr yw i ddweud da chi ddim ar ben eich hun. Plîs ceisiwch siarad gyda rhywun i ddweud sut da chi’n teimlo. Does ‘na ddim cywilydd. Mae na bobol all helpu. Ewch i weld eich GP i gychwyn y sgwrs.


Dwi wastad yma os oes unrhyw un eisiau siarad. Dwi ddim yn ‘expert’ ond gallai fod yn glust i wrando a siarad o brofiad beth wnaeth fy helpu i.


Cariad mawr

Leri x


Os da chi di cyrraedd mor bell a hyn, diolch 💜


4 views0 comments

Comments


bottom of page